



Pryd a ble?
Dydd Mercher 2 Gorffenaf 2025
Yn fyw dros Zoom - 10:30am
Beth yw’r Jambori?
Ymunwch gyda Mistar Urdd a holl ysgolion cynradd Cymru, cyflwynwyr Stwnsh Sadwrn, Eden, Aleighcia Scott a Rose Datta, yn ogystal â BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales i ddangos eich balchder a chefnogaeth i dîm Cymru yn nhwrnamaint Ewro’r Menywod!
Dyma gyfle gwbl gwych i'ch ysgol chi fod yn rhan o’r dathliadau. Cyd-gannwch yr hen ffefrynnau a chaneuon newydd sbon sydd wedi eu cyfansoddi yn arbennig i gefnogi Cymru.


Cofrestru
Ymunwch gyda ni ar 2 Gorffennaf!
Byddwn yn cefnogi tîm pêl-droed menywod Cymru wrth iddyn nhw gystadlu yn nhwrnamaint Ewro Menywod UEFA am y tro cyntaf mewn hanes.
Cofrestrwch eich ysgol nawr – i ymddangos y map ar ein gwefan, ac i dderbyn dolen Zoom i ymuno yn y canu byw ar 2 Gorffennaf.
Jambori Ewro Menywod Cymru
Cwestiynau cyffredin
Pryd fydda i’n cael y ddolen Zoom?
Byddwch yn cael eich dolen ar ddydd Mercher 25 Mehefin.
Beth am y caneuon, fyddan nhw'n cael eu cyfieithu / fydd yna isdeitlau?
Cyfle i gyd-ganu yn Gymraeg yw Jambori Cwpan y Byd, ond dydyn ni ddim yn disgwyl i bawb ddysgu'r caneuon i gyd. Bydd yr holl ganeuon i'w clywed ac yn cael eu canu yn Gymraeg, gydag isdeitlau i bawb eu dilyn yn Gymraeg a bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.
Beth yw amserlen y bore?
9.30am - Bydd yr ysafell aros yn agor
10.15am - Dechrau cyfri 15 munud i lawr
10.30am - Ffrwd FYW y Jambori
11:00am - Tua’r amser gorffen
Rydyn ni’n cynghori eich bod yn gwirio bod modd i chi gael mynediad at y llwyfannau yma cyn gynted â phosib, er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn cael y profiad Jambori gorau ddydd Iau am 10.30am.
Alla i ddim defnyddio / cael mynediad at Zoom
Peidiwch â phoeni, bydd sianel YouTube Urdd Gobaith Cymru a yn ffrydio Jambori yn FYW, byddwn yn dechrau cyfrif i lawr o 10.15am ymlaen, a bydd y Jambori BYW yn dechrau am 10.30am.