Skip to main content
Mistar Urdd - FAW_higher res.png

Ewro menywod Cymru

Pryd a ble?

Dydd Mercher 2 Gorffenaf 2025

Yn fyw dros Zoom - 10:30am

Beth yw’r Jambori?

Ymunwch gyda Mistar Urdd a holl ysgolion cynradd Cymru, cyflwynwyr Stwnsh Sadwrn, Eden, Aleighcia Scott a Rose Datta, yn ogystal â BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales i ddangos eich balchder a chefnogaeth i dîm Cymru yn nhwrnamaint Ewro’r Menywod!

Dyma gyfle gwbl gwych i'ch ysgol chi fod yn rhan o’r dathliadau. Cyd-gannwch yr hen ffefrynnau a  chaneuon newydd sbon sydd wedi eu cyfansoddi yn arbennig i gefnogi Cymru.

about-urdd-jambori.jpg
register-for-urdd-jambori.jpg

Mae’r brosesu gofrestru wedi cau.

Bydd sianel YouTube Urdd Gobaith Cymru, S4C a Stwnsh Sadwrn yn ffrydio Jambori yn FYW am 10.30am, yn ogystal â tudalennau Facebook yr Urdd a Stwnsh Sadwrn.

Rhannwch eich cynnwys gyda ni!

Cyfryngau Cymdeithasol: Cofiwch rannu’ch lluniau ar ôl y Jambori ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #Jambori25 #TîmCymru

Eich negeseuon ar wal Stwnsh Sadwrn: Anfonwch eich negeseuon a’ch lluniau i Stwnsh Sadwrn drwy’r ddolen yma, ac efallai y cawn nhw eu darllen yn ystod y Jambori.

about-urdd-jambori.jpg

Jambori Ewro Menywod Cymru

Cwestiynau cyffredin

Pryd fydda i’n cael y ddolen Zoom?

Byddwch yn cael eich dolen ar ddydd Mercher 25 Mehefin.
Os ydych chi'n cofrestru ar ol 25 Mehefin, byddwch cyn derbyn y ddolen Zoom ar 30 Mehefin. Mae cofrestru yn cau am 12pm, dydd Llun 30 Mehefin.

Beth am y caneuon, fyddan nhw'n cael eu cyfieithu / fydd yna isdeitlau?

Cyfle i gyd-ganu yn Gymraeg yw Jambori Cwpan y Byd, ond dydyn ni ddim yn disgwyl i bawb ddysgu'r caneuon i gyd. Bydd yr holl ganeuon i'w clywed ac yn cael eu canu yn Gymraeg, gydag isdeitlau i bawb eu dilyn yn Gymraeg a bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.

Beth yw amserlen y bore?

9.30am - Bydd yr ysafell aros yn agor

10.15am - Dechrau cyfri 15 munud i lawr

10.30am - Ffrwd FYW y Jambori

11:00am - Tua’r amser gorffen

Rydyn ni’n cynghori eich bod yn gwirio bod modd i chi gael mynediad at y llwyfannau yma cyn gynted â phosib, er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn cael y profiad Jambori gorau Dydd Mercher am 10.30am.

Alla i ddim defnyddio / cael mynediad at Zoom

Peidiwch â phoeni, bydd sianel YouTube Urdd Gobaith Cymru, S4C a Stwnsh Sadwrn yn ffrydio Jambori yn FYW am 10.30am, yn ogystal â tudalennau Facebook yr Urdd a Stwnsh Sadwrn.

Ni allwn ymuno yn fyw ar 2 Gorffennaf, ond hoffem ymuno ar ddyddiad arall, oes angen i ni gofrestru?

Oes, cofrestrwch os gwelwch yn dda. Byddwch yn gallu gwylio a chyd-ganu ar ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf am 9am ar S4C neu wylio yn ôl ar amser sy’n cyfleus trwy Clic.

Dwi wedi cofrestru fy ysgol, ond heb dderbyn y ddolen Zoom.

Edrychwch yn eich blwch sothach am y neges sy’n cynnwys yr holl fanylion.

Os nad ydych yn gweld yr e-bost, e-bostiwch helo@urdd.org a gallwn ail-anfon y neges.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×